Cyffin Thomas
Hanes a Gwleidyddiaeth
Prifysgol Caergrawnt
Amdanaf i:
Rwyf ar hyn o bryd yn astudio Hanes a Gwleidyddiaeth yng Nghaergrawnt ac yn Llywydd Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caergrawnt. Yn y rôl hon, rwyf wedi trefnu cyfweliadau gyda gwleidyddion, fideos i ehangu mynediad i fwy o ddisgyblion Cymraeg, ac wedi arwain tîm wrth greu gwefan newydd. Fi hefyd yw swyddog cyfathrebu Plaid Pride, adran LHDT+ Plaid Cymru, lle rwyf wedi cynyddu ein hymgysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn aruthrol ac wedi gweithio o fewn y blaid i gryfhau hawliau trawsryweddol yng Nghymru.
Sgiliau:
Profiad gwaith:
Rwyf wedi cwblhau gwaith cyflogedig i Aelod Cynulliad ar egluro gwleidyddiaeth Cymru i ffoaduriaid a cheiswyr lloches o Gymru. Rwyf wedi bod yn hyfforddwr sgïo ers pedair blynedd, yn gweithio i Urdd Cymru yn Llangrannog, Ski4AllWales ym Mhen-bre, ac i Snowtraxx yn Saas Fee. Rwyf wedi cyflawni cymwysterau BASI Alpaidd Lefel 2 a BASI Sgïo Addasol Lefel 1, ymhlith eraill.