Daniel Rees

Peirianneg Bensaernïol a Rheoli Dylunio
Prifysgol Loughborough
Blwyddyn Graddio:
2022
Amdanaf i:
Mab ffarm dwyieithog ydw i o Aberystwyth sydd ag angerdd am y diwydiant adeiladu.
Sgiliau:

Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Loughborough, rwyf wedi datblygu ac ennill llawer o sgiliau. Sgiliau Gwaith Tîm a Chyfathrebu - Cefais y fraint o gydweithio â llawer o fyfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys Penseiri, Syrfewyr Meintiau, Rheolwyr Adeiladu, a Pheirianwyr Strwythurol ar sawl prosiect grŵp. Roedd gwaith tîm a chyfathrebu yn hanfodol i gyrraedd terfynau amser yn fwy effeithiol ac effeithlon. Sgiliau TG - Cefais wybodaeth mewn defnyddio meddalwedd CAD a BIM fel AutoCAD, Navisworks, a Revit a oedd yn caniatáu i mi gynhyrchu cynlluniau llawr adeiladu, Clash Detection, a modelu 3D ar gyfer sawl prosiect dylunio. Defnyddiais PowerProject hefyd a ddefnyddiwyd ar gyfer cynllunio gwahanol weithgareddau yn ystod prosiect adeiladu er mwyn lleihau costau ac oedi. Sgiliau Rheoli - Wedi cael y cyfle i redeg y busnes teuluol fel Rheolwr Fferm dros dro a oedd yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb am iechyd a lles yr anifeiliaid, rheoli'r tir, cynnal a chadw a gweithredu peiriannau fferm, trin nwyddau a chyfarfod â dosbarthwyr. Sgil allweddol arall a ddatblygais o ffermio oedd blaengynllunio, roedd hyn yn gofyn am osod nodau dyddiol, cyrraedd targedau, ac osgoi gwrthdaro rhwng gwahanol weithgareddau.

Profiad gwaith:

Yn ddiweddar cymerais yr her o adnewyddu ein cartref teuluol o’r 16eg Ganrif a oedd yn cynnwys dylunio a rheoli’r prosiect yn ogystal ag ennill sgiliau ymarferol o wahanol grefftau megis gwaith maen, plastro a gwaith coed. Yn ystod fy mhrofiad gwaith, bûm yn gweithio fel pensaer cynorthwyol a oedd yn golygu creu cynlluniau llawr ac ymweld â safleoedd gan sicrhau bod yr adeiladu ar y trywydd iawn a'i fod yn dilyn gofynion y cleient.

Agored i gyfleoedd