Acorn gan Synergie

Casnewydd
Recriwtio

Acorn yw un o brif gwmnïau recriwtio’r DU a dechreuodd y cyfan yma yng Nghymru bron i 30 mlynedd yn ôl.

Rydym wrth ein bodd i fod yn Bartner Sefydlu Darogan ac yn edrych ymlaen at drafod y cyfleoedd swyddi gorau sydd gennym gyda chi. Nid yn unig y byddwn yn arddangos y swyddi sydd ar gael o fewn Acorn, ond byddwn hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd ein cleientiaid ledled y wlad.  


Rydym yn datblygu gyrfaoedd, yn tyfu busnesau, yn cyflawni uchelgeisiau ac yn newid bywydau.

 

Gweithio i Acorn

Rydym yn arweinwyr yn ein diwydiant, ac rydym bob amser yn chwilio am bobl dalentog i ymuno â ni a chyfrannu at ein llwyddiant. Gyda chynlluniau datblygu parhaus, mae Acorn yn lle cyffrous i fod - felly os ydych chi'n weithgar, yn entrepreneuraidd ac yn angerddol, rydyn ni eisiau siarad â chi.

 

Beth sydd ei angen arnoch i ymuno â ni?

Rydym yn cydnabod talent pan fyddwn yn ei weld, felly nid oes angen i chi o reidrwydd fod â phrofiad mewn recriwtio, hyfforddi neu werthu i ymuno â ni. Mewn gwirionedd, mae llawer o’n hadnoddwyr, cynghorwyr, ymgynghorwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr sy’n perfformio orau wedi dod o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys chwaraeon proffesiynol, y gwasanaeth tân a’r lluoedd arfog.

 

Ffynnu ar ein diwylliant

Mae pobl yn creu gwerth, ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth bod pob un o'n cydweithwyr yn chwarae rhan arwyddocaol yn ein llwyddiant. Cyflym, heriol ac anrhagweladwy, ond eto'n hwyl, yn flaengar ac yn effeithiol - dim ond ychydig eiriau yw'r rhain a ddefnyddir i ddisgrifio diwylliant Acorn gan ein gweithwyr ein hunain. Gall recriwtio fod yn fusnes caled, ond yn Acorn fe gewch yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch i ffynnu - rydym yn deulu wedi'r cyfan.

 

Mae'r niferoedd yn dweud y cyfan

Mae 42% o’n gweithwyr wedi bod gydag Acorn am fwy na phum mlynedd, ac mae 21% wedi bod gyda ni ers dros 10.

 

Cymerwch olwg o gwmpas y wefan i weld pa rolau sydd gennym ar gael i chi - ar gyfer Acorn a'r busnesau rydym yn gweithio gyda nhw, fodd bynnag yn y cyfamser rydym am ddymuno'r gorau i chi yn eich pennod nesaf.